Ychydig wythnosau yn ôl, roedd gan y BPS erthygl oedd yn sôn am hanner meddygon yr Almaen oedd yn rhagnodi plasebo i drin iselder. Roeddent hefyd yn ei ddefnyddio er mwyn trin anhwylderau fel cwynion stumog. Mewn rhai mannau maent yn defnyddio amryw o fitaminau fel plasebo ond mae eraill yn defnyddio meddyginiaethau homeopathi. Mae gan blasebo ddylanwad cryf iawn ar y corff ac roedd y BPS yn nodi y dylai meddygon a myfyrwyr gael eu haddysgu amdanynt.
Yn amlwg mae iselder yn gyflwr difrifol ac weithiau gall achosi morbidrwydd neu farwoldeb o fewn plant a phobl ifanc. Dywedodd Emslie et al., (1997) bod cyffuriau gwrth-iselder fel fluoxetine yn fwy effeithiol na phlasebo. Fe wnaethant arbrofi ar 96 o gleifion rhwng 7-17 oed oedd yn dioddef o iselder dwys ac yn eu gweld yn wythnosol am gyfnod o 8 wythnos. Derbynion 48 ohonynt fluoxetine a 48 plasebo. Cafodd 27 oedd yn defnyddio fluoxetine a 16 oedd yn defnyddio plasebo eu gwella neu eu gwella yn llwyr. Dengys hyn bod fluoxetine yn well na phlasebo ond bod plasebo yn gweithio hefyd gyda rhai unigolion.
Darganfyddodd Corrigan, Denahan, Pharm, Ragual ac Evans (2000) bod pramipexole sef math arall o gyffur gwrth-iselder yn gwella dioddefwyr yn sylweddol o gymharu â’r grŵp plasebo. Roedd eu hymchwil hwy yn debyg iawn i’r blaenorol ble yr oeddent yn arbrofi ar 174 o bobl oedd yn dioddef o iselder dwys. Roedd rhai o’r rhain yn dioddef o’r felan hefyd ag eraill efo nodweddion seicotig. Roedd eu hanner yn derbyn y pramipexole a’r hanner arall yn derbyn y plasebo am 8 wythnos.
Yn wahanol i’r arbrofion hyn, cafodd Walsh, Seidman, Sysko a Gould (2002) ganlyniadau gwahanol. Roedd eu hymchwil nhw yn ymchwilio i weld os oedd angen defnyddio grwpia plasebo o gwbl wrth ymchwilio am feddyginiaethau newydd. Y prif reswm am hyn yw bod rhai gwyddonwyr yn credu bod y tabledi gwrth-iselder yn effeithiol yn barod ac felly mae pryder am y grŵp plasebo mewn treialon newydd. Fe wnaethant ymchwilio i bob arbrawf ble oedd oedolion oedd yn dioddef o iselder difrifol yn cael eu haseinio ar hap i dderbyn meddyginiaeth neu blasebo oedd wedi cael ei reoli gan y MEDLINE a’r PsychLit rhwng Ionawr 1981 a Rhagfyr 2000. Dengys yr astudiaeth hon bod ymateb i blasebo yn amrywiol iawn ac mae ymateb cadarnhaol pobl i’r feddyginiaeth a’r plasebo wedi cynyddu yn ddiweddar. Mae hyn yn cadarnhau bod plasebo yn bwysig yn natblygiad tabledi gwrth-iselder newydd.
Yn fy marn i, credaf ei bod hi’n anodd iawn gwybod os mai tabledi gwrth-iselder neu blasebo yw’r mwyaf effeithiol. Rwy’n meddwl bod hynny yn dibynnu ar yr unigolyn sy’n gorfod eu cymryd.
Corrigan, M.H., Denahan, A.Q., Pharm, C.E.W., Ragual, R.J., & Evans, D.L. (2000). Comparison of pramipexole, fluoxetine, and placebo in patient with major depression. Depression and Anxiety, 11(2), 58-65. doi: 10.1002/(SICI)1520-6394(2000)11:2<58::AID-DA2>3.0.CO;2-H.
Emslie, G.J., Rush, J., Weinberg, W.A., Kowatch, R.A., Hughes, C.W., Carmody, T., & Rintelmann, J. (1997). A Double-blind, Randomized, Placebo-Controlled Trial of Fluoxetine in Children and Adolescents with Depression. Arch Gen Psychiatry, 54(11), 1031-1037.
German doctors ‘prescribing placebos to treat depression’. (29/03/2011) Retrieved from http://www.bps.org.uk/news/german-doctors-prescribing-placebos-treat-depression.
Walsh, B.T., Seidman, S.N., Sysko, R., & Gould, M. (2002). Placebo Response in Studies of Major Depression. The Journal of the American Medical Association, 287(14), 1840-1847. doi: 10.1001/jama.287.14.1840