A yw hi’n bosibl atal cyflyrau meddwl rhag datblygu yn gyfan gwbl?

Wrth ystyried y cwestiwn hwn ar yr olwg gyntaf, credaf ei bod hi’n anodd neu’n amhosibl atal salwch meddwl rhag datblygu.  Roeddwn i’n credu hyn gan fod nifer o ymchwilwyr megis Kety (1983) yn credu bod cyflyrau meddyliol yn etifeddu o fewn teuluoedd.  Er hynny byddai’n rhaid i’r unigolyn fod wedi dioddef trawma seicolegol neu straen amgylcheddol er mwyn datblygu’r anhwylder.  Y rheswm yr oeddwn i yn credu ei bod yn anodd atal salwch meddwl yw am ei bod hi’n anodd rheoli cyflyrau genetig. (Sachdev, 2011)  Ydych chi’n credu ei bod hi’n bosibl atal cyflyrau meddyliol rhag datblygu?

Wedi darllen erthyglau ymhellach am y testun, rwy’n tueddu i anghytuno efo’r hyn oeddwn i yn ei gredu cyn hyn.  Ar y we fe ddarganfyddais lawer o wefannau a chanllawiau ar sut i atal y cyflyrau.  Un o’r gwefannau gorau oedd www.preventmentalillness.org oedd yn wefan wedi cael ei greu ar gyfer pobl ifanc er mwyn adnabod symptomau.  Hefyd mae’r World Health Organistation wedi cyhoeddi crynodeb am ‘Prevention of Mental Disorderes – Effective Interventions and Policy Options’.  Cyhoeddodd Domitrovich a Greenberg (2009) erthygl sy’n cynnwys 34 rhaglen wahanol er mwyn atal salwch meddwl yn cynnwys lleihau symptomau seicopathi a ffactorau risg ac mae pob rhaglen wedi arddangos canlyniadau positif.  Mae hyn yn cadarnhau ei bod hi’n bosibl atal cyflyrau.

Yn ôl Pan (2010), sydd wedi ymchwilio’n ddwfn i’r maes hwn, mae ymchwil diweddar yn dangos bod ychwanegiadau olew pysgod yn lleihau risg o ddatblygu seicosis a sgitsoffrenia ymysg pobl ifanc, yn ogystal ag atal iselder a cham-drin cyffuriau.   Yn bersonol, rwy’n credu bod hyn ychydig yn rhy uchelgeisiol ac nad yw’n cyfleu realiti ond ar y llaw arall mae’r ychwanegiadau hyn yn gryf mewn asidau omega-3 sy’n cael effaith cadarnhaol ar y corff cyfan yn ôl Simopoulus (1991) ac felly yn debygol o gael effaith cadarnhaol ar y meddwl hefyd.  Profodd Assisi et al (2006) hefyd bod yr ychwanegiadau hyn yn lleihau risg o Alzheimer’s, Sgitsoffrenia, iselder a gorfywiogrwydd.

Er hynny credaf nad yw’n hi’n bosibl atal salwch meddwl yn gyfan gwbl ond ei bod hi’n bosibl gwella’r salwch rhag datblygu ymhellach drwy ymyrraeth, newid ffordd o fyw, therapi a meddyginiaethau.

Assasi, A. (2006). Fish oil and mental health: the role of n-3 long-chain polyunsaturated fatty acids in cognitive development and neurological disorders. International Clinical Psychopharmacology, 21(6), 319-336.

Domitrovichg, C.E. & Greenberg, M.T. (2000). The Study of Implementation: Current Findings From Effective Programs that Prevent Mental Disorders in School-Aged Children. Journal of Educational and Psychological Consulation, 11(2), 193-221

Kety, S.S. (1983). Mental illness in the biological and adoptive relatives of schizophrenic adoptees : Findings relevant to genetic and environmental factors in etiology. The American Journal of Psychiatry, 140(6), 720-727.

Pan, C. (2010). GP’s view: Mental illness. Body + Soul

Simopoulos, A.P. (1991). Omega-3 fatty acids in health and disease and in growth and development. American Journal of Clinical Nutrition, 54, 438-463.

 

4 thoughts on “A yw hi’n bosibl atal cyflyrau meddwl rhag datblygu yn gyfan gwbl?

  1. Blog diddorol iawn. Cyntunaf gyda ti ei bod hi yn bosib atal cyflyrau meddwl i ryw raddau, ond ei fod o ddim yn bosib ei atal yn llwyr. Credaf hyn oherwydd anodd iawn yw adnabod bod unigolion yn dioddef o salwch meddwl heb weld bod y symptomau wedi dechrau, e.e. rhywun sydd yn dioddef o iselder yn aros yn ei gwely drwy’r dydd. Wrth fynd i’r cyfnod yma, mae hi am fod yn daith hir i gael gwared o’r salwch meddwl. Mae llawer iawn o ffactorau yn medru effeithio ar y posiblrywdd o wella salwch meddwl hefyd- e.e. mae’r economi yn chwarae rol fawr mewn atal salwch meddwl ddatblygu hefyd oherywdd os nad oes digon o arian i gynnal triniaethau llwyddiannus-nid oes posib eu nadu o ddatblygu. Gellir dadlau felly ei fod yn dibynnu ar statws economaidd ac ym mha wlad yr ydych yn ei fyw ynddo.

    Fel yr wyt wedi ei nodi mae llawer o gynlluniau ymyraeth wedi bod yn llwyddiannus yn delio gyda datblygiad salwch meddwl- megis ‘Good Behaviour Game’ (GBG) (Kellam et al., 1994) i ddelio gyda problemau ymosodedd mewn plant a phobl ifanc, ac ‘Coping with Stress Course’ (Clarke et al., 2001) sef cynllun sydd yn targedu plant gyda rhieni seicotig. Efallai ei fod yn bosib dadlau bod galw am gynlluniau gwell i ddelio gyda datblygiad salwch meddwl- ond teimlaf fod hyn yn gwbwl afrealistig ar y funud o gysidro’r economi.

    Mae hwn yn dda iawn ar gyfer egluro cynlluniau salwch meddwl ac os oes posib ei atal rhag datblygu (World Health Organisation):

    Click to access prevention_of_mental_disorders_sr.pdf

    O weld dy fod wedi cyfeirio at olew omega 3- darllenais yn diweddar fod cannabis mewn cymedroldeb bach iawn yn medru bod yn wrth-iselydd llwyddiannus oherwydd ei fod yn cynnwys THC, sydd yn cynyddu serotonin, sydd yn debyg iawn i’r gwrth-iselydd SSRI. Ond pwysig nodi ei fod yn medru achosi iselder os yn cael ei ddefnyddio ar lefelau uwch.

    Dyma’r erthygl i ti gael golwg arno: http://www.foxnews.com/story/0,2933,304996,00.html
    Mae hwn yn un da hefyd:http://www.springerlink.com/content/1uhfwyn6pxwrd1hr/

    Eto blog diddorol iawn yn codi nifer o gwestiynnau! Sioned 🙂

  2. Nid ydw i’n credu gall gyflyrau meddwl gael eu hatal oherwydd bod llawer iawn o’r cyflyrau yn etifeddol ac mae model gwybyddol Beck (1964) yn rhoi llawer o dystiolaeth bod y ffordd rydym ni wedi cael ein magu yn effeithio ar y ffordd rydym ni’n meddwl, a gall y ffordd rydym ni’n meddwl achosi cyflyrau meddwl. Gall rhai dadlau buasai cyflyrau meddwl yn gallu cael eu hatal drwy newid y ffordd rydym yn meddwl, ond gall hyn fod yn anodd iawn. Mae llawer iawn o astudiaethau yn dangos fod cyflyrau meddwl yn etifeddu o fewn teuluoedd. Gwnaeth Torgerson (1983) astudiaeth ar anhwylder gorbryder a defnyddiodd efeilliaid monozygotig a dizygotic fel ei gyfranogwyr. Darganfyddodd fod amlder anhwylder gorbryder dwywaith yn uwch yn yr efeilliaid monozygotic i gymharu a’r efeilliaid dizygotic.Gwnaeth Lapalme, Hodgins & LaRoche (1997) astudiaeth meta-analysis oedd hefyd yn ceisio gweld os oedd cyflyrau meddwl yn etifeddol. Darganfyddwyd bod plant a oedd a rhieni oedd yn dioddef o bipolar disorder 2.7 gwaith mwy tebygol o ddioddef o’r salwch i gymharu a plant rhieni nad oedd yn dioddef o’r salwch.

    Beck, A, T. (1964). Thinking and depression. Archives of General Psychiatry, 10(6), 561-571.

    Lapalme, M., Hodgins, S., LaRoche, C. (1997). Children of parents with bipolar disorder: A metaanalysis of risk for mental disorders. The Canadian Journal of Psychiatry, 42(6), 623-631.

    Torgerson, S. (1983). Genetic factors in Anxiety disorders. Archives of General Psychiatry, 40(10), 1085-1089.

  3. Blog da ac hawdd i’w ddarllen. I gonsidro nad oedd seicoleg yn bodoli 150 mlynedd yn ol, i ystyried faint mae’r pwnc wedi dod yn ei flaen ac faint rydym ni yn gwybod am yr ymenydd mae’n anhygoel. Felly, meddyliwch faint yn fwy fydd y pwnc wedi datblygu mewn 150 mlynedd arall. Gan ein bod yn gwybod achos a triniaeth i pob math o wahanol anhwylderau, efallai gallai seicolegwyr ddatblygu ffyrdd o osgoi datblygu’r anhwylderau yn y lle cynta.

    Edrychais ar y wefan http://www.preventmentalillness.org ac roeddyn dda i ddarllen. Dwi’n meddwl mae ffordd dda o atal iechyd meddwl, neu o leia cyn iddo ddatblygu yn gyfan ydi wrth rhoi digon o wybodaeth a cymorth am symptomau problemau iechyd meddwl. Byddai hyn yn galluogi i bobl gael triniaeth yn gynnar a felly lleihau y siawns o’r salwch ddatblygu.

    Ond beth am anhwylderau sydd yn genynol? Yn wir byddai yn anodd gweld pa anhwyledrau neu salech sydd gan pobl ac yn anoddach newid y genynau fel nad ydynt yn datblygu’r anhwylder neu salwch ond efallai os ydi’r unigolun yn gwybod eu bod efo gennyn e.e. cancr, o leia gallant edrych allan am symptomau. Ond ar y llaw arall efallai fod hyn yn beth drwg achos gallai pobl fyw eu bywydau yn poeni am datblygu y salwch yma ac ddim cal ansawdd bywyd mor dda a tasa nhw ddim yn gwybod am y genyn hyn.

    Bydd yr hyn yr ydym yn gwybod am seicoleg yn cynyddu wrth i thechnoleg ddatblygu felly pwy a wyr beth fydd gwyddonwyr yn gallu gwneud yn y blynyddoedd nesaf.

  4. Pingback: Blogiau Cymraeg Eraill • meddwl.org

Leave a comment