Yn fy marn i, mae anhwylderau bwyta yn cael eu hachosi oherwydd nifer o broblemau gan gynnwys problemau seicolegol, biolegol a chymdeithasol fel y rhan fwyaf o anhwylderau seicolegol eraill. Meddai Bulik et al (2003) yn ei astudiaeth bod y cromosom 10p yn yr ymennydd yn achosi Bulimia Nervosa ac Anorexia ac mae’r rhan fwyaf o Ddoctoriaid yn credu hyn hefyd. Er bod geneteg yn cael effaith fawr rwy’n credu bod yr amgylchedd teuluol y mae’r unigolyn yn cael ei fagu ynddo yn cael dylanwad mawr hefyd. Roedd achos gan y National Heart, Lung and Blood Institute yn dangos bod 40% o ferched 9-10 oed yn trio colli pwysau a bod hynny gydag anogaeth gan eu mamau.
Mae’r holl hysbysebion sydd ar y teledu ag o fewn papurau newydd yn denu pobl ifanc i newid eu diet ac maent yn dangos merched anorecsig fel y paradeim delfrydol er mwyn denu cariad. Dangosodd astudiaeth gan Smith, Waldorf a Trembath (1990) mai “physical attractiveness was the characteristic most frequently sought by males” a’u bod yn chwilio am “thin partner.” Er hynny mae’r cyfryngau yn hysbysebu bwydydd afiachus sy’n arwain yn aml at ordewdra. Yn yr U.D.A. mae digon o fwyd yn cael ei ddarparu fel bod 3800 o galorïau ar gael ar gyfer pob dinesydd yn ddyddiol. Achos cyffredin ar gyfer Bulimia yn aml yw gordewdra o fewn teuluoedd neu pe bai’r plentyn wedi dioddef o ordewdra yn ifanc. Bydd hyn yn arwain at ddiet ac yn ôl Hsu (1997), dilyn diet yw un o brif achosion anhwylderau bwyta.
Yn amlwg mae nifer o achosion eraill dros anhwylderau bwyta sy’n amrywio o un person i’r llall megis –
- Problemau o ddibyniaeth yn y teulu
- Cam-drin yn enwedig cam-drin rhywiol
- Hunanhyder isel, iselder, pryder neu unigrwydd
- Problemau teuluol
- Methu datgan teimladau
- Bwlio yn enwedig am bwysau’r corff
- Cemegau yn yr ymennydd ddim yn cydbwyso
Mae nifer fawr o’r dioddefwyr fel arfer yn berffeithyddion ac yn ymddangos fel yr unigolion delfrydol ond byddent yn teimlo’n ddiwerth y tu mewn. Maent yn teimlo fel methiant am nad ydynt byth am fod yn hollol berffaith. Oherwydd hyn byddent yn cadw’r broblem fel cyfrinach a bydd hyn yn eu harwain at fod yn encilgar ac yn gwrthod wynebu sefyllfaoedd cymdeithasol yn enwedig rhai sy’n cynnwys bwyd sy’n arwain at hyd yn oed mwy o broblemau.
Er hynny mae Fairburn & Beglin (1990) yn credu bod anhwylderau bwyta sy’n ymddangos yn y Gorllewin yn cael ei orliwio yn fwy na beth yw’r broblem wreiddiol. Rwyf i yn bersonol yn anghytuno oherwydd mae’r nifer o farwolaethau sy’n gysylltiedig â’r anhwylderau hyn yn frawychus o uchel ac mae angen llawer mwy o ymchwil i mewn i achosion a thriniaethau sydd ar gael ar gyfer y bobl hyn er mwyn datrys y broblem. Beth ydych chi’n feddwl?
Mae llawer o wybodaeth am yr anhwylderau ar y wefan B-eat sydd ar gael i helpu pobol ifanc sy’n dioddef o’r anhwylderau hyn. Dyma’r cyfeiriad wê – http://www.b-eat.co.uk/
Diolch am ddarllen 🙂