Elfennau biolegol gwahaniaeth rhyw ar hoffter at liwiau

Mae’n norm erbyn hyn bod bechgyn yn cael eu cysylltu efo’r lliw glas a’r merched efo’r lliw pinc. Gwnaeth Hulbert a Ling (2007) arbrawf yn ymchwilio i mewn i hyn. Teitl yr adroddiad yw ‘Biological components of sex differneces in color preference’ a chredaf ei fod yn deitl addas oherwydd mae’n cyfleu beth yw nod ymchwil yr arbrawf.

Yr hypothesis ar gyfer yr arbrawf hwn rydw i yn tybio byddai – Mae gwahaniaethau rhyw yn cael effaith ar hoffter at liwiau a phrofwyd bod hynny yn gywir. Darganfuwyd mai hoff liw bechgyn yw glas golau a merched yw pinc-lelog. Roedd y 208 o gyfranogwyr Tsineaidd a Phrydeinwyr rhwng 20-26 oed. Dangoswyd parau o liwiau ac roedd y cyfranogwyr yn gorfod clicio ar y lliw yr oeddent fwyaf hoff ohono. Defnyddiwyd technegau gwahanol ar y lliwiau er mwyn gweld os oedd hyn yn cael effaith ar eu dewis. Roedd tri arbrawf gydag wyth lliw yn ymddangos. Gwnaeth 90 o’r cyfranogwyr y prawf eto o fewn ychydig wythnosau. Roedd merched yn hoffi’r lliwiau coch/piws ond yn casáu melyn/gwyrdd tra nad oedd bechgyn mor gadarn o ran dewis ond yn amlwg yn hoffi’r lliwiau glas/gwyrdd yn fwy na’r gweddill. Dim ond y lliwiau coch a phinc sy’n dangos gwahaniaeth rhyw arwyddocaol drwy’r boblogaeth – merched yn ei hoffi, bechgyn ddim ac roedd y dynion yn ymateb yn gyflymach na merched. Credaf fod y canlyniadau yn hawdd i’w rhagweld.

Yn yr adroddiad, maent yn cyfeirio at elfennau esblygiadol fel y theori heliwr-gasglwr er mwyn cyfiawnhau eglurhad at yr hyn sy’n cael ei grybwyll yn y teitl. Yn ôl yr ymchwiliad mae llygaid merched wedi esblygu er mwyn gallu gweld y lliwiau coch hyn ynghanol y gwyrddni. Mae glas yn symbol o ddŵr glân a thywydd braf ac mae’r canlyniadau eto yn dangos bod merched yn hoffi’r lliw glas a phinc, a dynion dim ond glas. Hefyd mae pinc yn lliw sy’n ymddangos mewn emosiynau gwahanol a gall hyn fod yn rheswm pam bod merched yn ei hoffi gan eu bod yn fwy gofalgar ag yn dangos fwy o empathi. Darganfuwyd bod y Tsieniaid yn hoffi’r lliw coch gan ei fod yn symbol o lwc dda a hapusrwydd felly mae dylanwadau diwylliannol yn effeithio hefyd. Er hynny, mae’r rheswm dros yr eglurhad hwn yn amwys i mi gan nad ydynt yn rhoi unrhyw brawf na thystiolaeth am y theori hon er bod siawns bod y rhagdybiaeth yn wir. Gallai nifer fawr o ffactorau effeithio ar pam bod merched yn hoffi’r lliw pinc ac nid dim ond esblygiad sy’n gwreiddio o 10,000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae’r adroddiad gwreiddiol yn mynegi ei bod hi’n anodd iawn cael disgrifiad cynhwysfawr o’r hoffter gan fod diffyg rheolaeth yn aml o fewn y dulliau mesur. Nid yw’r adroddiad yn y Times yn cyfeirio at hyn o gwbl ac nid ydynt yn crybwyll nad oes tystiolaeth derfynol erioed wedi bodoli am wahaniaethau rhyw wrth ddewis lliwiau wedi bodoli yn y gorffennol. Efallai bod hyn yn sioc gan ei fod yn norm erbyn hyn i ferched wisgo pinc a bechgyn wisgo glas ac efallai dyna pam bod y papur newydd wedi cyfeirio ato fel teitl er mwyn denu diddordeb y cyhoedd. Er hynny, mae’r ymchwil yn dangos bod hoffter at liwiau penodol yn bodoli ac felly gellir dweud bod y teitl sy’n ymddangos yn addas i ryw raddau: “At last, science discovers why blue is for boys but girls really do prefer pink.”

Ar y cyfan felly, credaf fod yr adroddiad gwreiddiol yn llwyddiannus ond nad oes digon o dystiolaeth ynglŷn â sut maent wedi profi bod y theori hon yn gywir. Mae’r adroddiad o’r Times wedi cymryd y ffeithiau yn gywir ond wedi eu siapio er mwyn gwneud yr arbrawf yn fwy diddorol i’r cyhoedd ac felly nid yw mor ddibynadwy.